GŴYL FFILM
Gwybodaeth am Wobrau Cynhyrchwyr Ffilm Ifanc Zoom 09

Gwybodaeth am Wobrau Cynhyrchwyr Ffilm Ifanc Zoom 09

Unwaith yn rhagor bydd 10 gwobr a dyma’r categorïau;

Ffilm Orau yng nghategori oedran 8-13

Ffilm Orau yng nghategori oedran 14-25

Perfformiad Gorau

Cyfarwyddo Gorau

Ffilm Animeiddio Orau

Dogfen Orau

Ffuglen Orau

Ffilm Gymraeg Orau

Gwobr Cynulleidfa Zoom (a ddewisir gennych chi)

Gwobr Zoom

Gallwch bleidleisio dros eich hoff ffilm trwy ddanfon neges destun neu trwy fwrw pleidlais bapur yn ystod yr ŵyl, bydd y ffilm fuddugol yn derbyn Gwobr Cynulleidfa Zoom.

Bydd y Seremoni Wobrwyo yn ddigwyddiad llawn sêr ac enwogion ac mae’n gyfle i weld beth sydd gan y gystadleuaeth i’w gynnig. Mae Seremoni Wobrwyo Cynhyrchwyr Ffilm Ifanc Zoom yn gwbl unigryw. Nid gan y beirniaid yn unig y caiff y gwobrau eu cyflwyno i’r enillwyr, ond gan sêr ac enwogion, ond bydd yn rhaid i chi ddod i’r seremoni er mwyn gweld pwy – chewch chi ddim eich siomi!

Does dim rhaid i chi gyflwyno ffilm er mwyn dod i’r seremoni, dewch yn llu a pharatowch i gael eich rhyfeddu gan y dalent sydd o’ch cwmpas!

Gellir archebu tocynnau ar gyfer pob un o’r digwyddiadau yn uniongyrchol gyda Phrif Swyddfa Zoom trwy e-bostio info@zoomcymru.com neu trwy ffonio 01443 413 622. Gellir prynu tocynnau wrth y drws ar y diwrnod ond nid ydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn. Peidiwch â chael eich siomi, cysylltwch â ni er mwyn archebu eich lle.