GŴYL FFILM
Sut i Archebu

Sut i Archebu

Gellir archebu tocynnau ar gyfer pob un o’r digwyddiadau yn uniongyrchol gyda Phrif Swyddfa Zoom trwy e-bostio info@zoomcymru.com neu trwy ffonio 01443 413 622. Gellir prynu tocynnau wrth y drws ar y diwrnod ond nid ydym yn argymell eich bod yn gwneud hyn. Peidiwch â chael eich siomi, cysylltwch â ni er mwyn archebu eich lle.

Pris tocynnau plant yw £1 y ffilm neu £1 y gweithdy, pris tocynnau pobl ifanc yw £1 y ffilm neu £1 y gweithdy a phris tocynnau oedolion eleni yw ... dim ond £1 yr un!

Mae cynigion arbennig ar gael i ysgolion a grwpiau ieuenctid, gellir cael mynediad am ddim i’r athrawon neu arweinwyr y grŵp gyda chriw o fwy na 10 o blant/pobl ifanc. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni!

Peidiwch anghofio, os ydych yn prynu tocynnau ar gyfer y Noson Agoriadol neu’r Seremoni Gloi byddwch yn gallu mynd i’r Partïon yng Nghlwb y Bont, am bris bargen o £1!!