Gweithdai a Dosbarthiadau Meistr
Mae’r gweithdai a’r dosbarthiadau meistr eleni yn rhai cyffrous ac yn werthfawr iawn os ydych eisiau dysgu mwy am y diwydiant ffilm. Cewch gyfle i siarad â phobl sy’n gweithio yn y cyfryngau fydd yn gallu cynnig cyngor gwych i chi ac efallai gallant weld talent ynddoch chi nad oeddech yn gwybod oedd yno.
Cynhelir amrywiaeth o weithdai a dosbarthiadau meistr gydag unigolion o’r diwydiant ym mhob un o ganolfannau’r ŵyl. Ewch i’n gwefan am ragor o fanylion am ddyddiadau a lleoliadau ac argraffwch ein hamserlen PDF hwylus sydd â gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi.
Animeiddio
Ymunwch ag unigolion o’r diwydiant am gipolwg y tu ôl i’r llenni ar fyd animeiddio 2D ac animeiddio ‘torri-mas’.
Byrfyfyrio
Cyfle i gymryd rhan mewn gemau drama a dysgu technegau byrfyfyrio cydnabyddedig er mwyn datblygu hunan hyder, archwilio eich dychymyg a chael hwyl ar yr un pryd.
Y Sgrin Werdd
Ai chi yw’r Derek Brockway neu Siân Lloyd newydd? Dyma gyfle i weld sut mae effeithiau arbennig y sgrin werdd yn gweithio.
Ymladd ar ffilm
Cyfle i ddysgu technegau ymladd llwyfan ar gyfer teledu a ffilm a chael cyfle i ymladd fel eich hoff sêr ffilmiau cyffro!
Colur Effeithiau Arbennig
Dysgwch sut y gallwch edrych yn ddychrynllyd a brawychus gan ddefnyddio colur! Dewch i weld sut mae artistiaid colur o fyd ffilm a theledu yn gallu newid golwg pobl trwy ddefnyddio latecs, lliwiau ac arlliwio.
Photoshop!
Cyfle i greu poster ffilm gyda chymorth asiantaeth ddylunio leol Octopus. Cewch gymorth arbenigol i droi eich syniadau’n bosteri deniadol i hyrwyddo eich hoff ffilm!
Be Nesa?
Mewn cydweithrediad ag Academi Sgrin Cymru Skillset dyma eich cyfle i ddarganfod beth sydd gan y diwydiant cyfryngau yng Nghymru i’w gynnig! Cewch gwrdd â’r genhedlaeth newydd o gynhyrchwyr ffilm o Gymru a thrafod eich opsiynau gyrfaol gyda Cyfle.
Dosbarthiadau Meistr
Bydd Ffresh (gŵyl delwedd symudol myfyrwyr Cymru) yn rhedeg sesiynau a bydd cyfle i fynychu dosbarth meistr gyda sgriptiwr Twin Town. Bydd llawer mwy o ddosbarthiadau meistr ffilm yn cael eu cynnal yn ystod yr ŵyl eleni!



